Speaker: Gwenan

Welsh language wiki ethnologue
Indo-European language family wiki
Latin script scriptsource
Roman Catholic Church wiki

Sign of the Cross

Yn enw'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân. Amen

Lord's Prayer

Ein Tad, y sy yn y nefoedd, sancteiddier dy enw, deled dy deyrnas, bydded dy ewyllys, ar y ddaear megis yn y nef. Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol, a maddau i ni ein dyledion, fel y maddeuwn ninnau i'n dyledwyr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth, eithr gwared ni rhag drwg. Amen

Hail Mary

Henffych well, Mair, llawn o ras, yr Arglwydd sydd gyd â thi, bendigedig wyt ti ym mhlith merched, a bendigedig yw Ffrwyth dy groth di Iesu. Sanctaidd Fair, Mam Duw, gweddïa drosom ni pechaduriaid yr awr hon, ac yn awr ein hangeu. Amen

Gloria Patri

Gogoniant i'r Tad ac i'r Mab ac i'r Ysbryd Glan, megis yr oedd yn y dechrau y mae'r awr hon ac y bydd yn wastad yn oes oesoedd. Amen

Apostles' Creed

Credaf yn Nuw Dad Hollalluog, Creawdwr nef a daear. Ac yn Iesu Grist ei unig Fab, ein Harglwydd, a ymddygwyd o waith yr Ysbryd Glân, a'i eni o Fair Forwyn, dioddefodd dan Pontiws Pilat, fe'i croeshoeliwyd, bu farw, a'i gladdu, disgynnodd i uffern, atgyfododd y trydydd dydd oddi wrth y meirw, esgyn i'r nefoedd, ac eistedd ar ddeheulaw Duw Dad hollalluog, daw oddi yno i farnu'r byw a'r meirw. Credaf yn yr Ysbryd Glân, yr Eglwys Lân Gatholig, cymun y Saint, maddeuant pechodau, atgyfodiad y cnawd, a'r bywyd tragwyddol. Amen

Niceno-Constantinopolitan Creed

Credaf yn un Duw, Tad Hollalluog, gwneuthurwr nef a daear a phopeth gweledig ac anweledig. Ac yn un Arglwydd Iesu Grist, unig-anedig Fab Duw, wedi ei genhedlu o'r Tad cyn yr holl oesoedd. Duw o Dduw, llewych o lewych, gwir Dduw o wir Dduw, wedi ei genhedlu, nid wedi ei wneuthur, yn un hanfod a'r Tad, yr Hwn y gwnaed popeth drwyddo, yr Hwn, erom ni ddynion ac er ein hiachawdwriaeth a ddaeth i lawr o'r nefoedd, ac a gnawdolwyd trwy'r Ysbryd Glân o Fair Forwyn, ac a ddaeth yn ddyn. Croeshoeliwyd ef hefyd drosom ni dan Pontius Pilat, dioddefodd, ac fe'i claddwyd. Ac atgyfododd y trydydd dydd yn ôl yr Ysgrythurau, ac esgynnodd i'r nef, ac eistedd ar ddeheulaw'r Tad, a daw ef drachefn mewn gogoniant i farnu'r byw a'r meirw, a diwedd ni bydd ar ei deyrnas. A chredaf hefyd yn yr Ysbryd Glân, yr Arglwydd a'r Bywiawdwr, sy'n deillio o'r Tad a'r Mab, yr Hwn gyda'r Tad a'r Mab a gydaddolir ac a gydogoneddir, ac a lefarodd drwy'r proffwydi. Ac yn un Eglwys lân, gatholig ac apostolig. Addefaf un bedydd er maddeuant pechodau. A disgwyliaf atgyfodiad y meirw a bywyd y byd sydd i ddyfod. Amen